Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Mae hemoffilia’n anhwylder etifeddol sy’n effeithio ar allu’r gwaed i geulo. Mae dau brif fath, hemoffilia A a hemoffilia B. Mae hemoffilia A yn tarddu o ddiffyg yn y ffactor ceulo VIII; dyma’r math mwyaf cyffredin o hemoffilia. Mae hemoffilia B yn tarddu o ddiffyg yn y ffactor IX. Mae trydydd math, sef hemoffilia C , yn tarddu o ddiffyg yn y ffactor XI; ffurf ysgafnach, lai cyffredin yw hon. Yn wahanol i’r ffurfiau eraill ar y clefyd, nid yw gwaedu digymell yn nodweddiadol ohoni ac nid yw’n arwain at waedu yn y cymalau. Yn hemoffilia A a B fel ei gilydd, mae’r diffyg yn peri gwaedu hirfaith hyd yn oed ar ôl i’r claf ddioddef mân anaf.