Neidio i'r prif gynnwy

Beth ydyw?

Mae’r enw Clefyd y Crymangelloedd (SCD) yn cwmpasu grŵp o anhwylderau etifeddol y gwaed sy’n digwydd pan fydd hemoglobin abnormal yn bresennol yn y celloedd gwaed cochion. Y math mwyaf cyffredin o SCD yw anemia’r crymangelloedd. Mae gan gelloedd gwaed cochion sy’n cynnwys hemoglobin normal siâp sy’n debyg i ddisgen. Mae’r siâp hon yn gadael i’r celloedd fod yn hyblyg fel y gallant symud trwy’r llestri gwaed mawr a mân i gyflenwi ocsigen. Yn anemia’r crymangelloedd, mae’r hemoglobin yn ffurfio gwiail anhyblyg y tu mewn i’r gell goch gan roi iddi siâp cilgant neu gryman. Nid yw’r celloedd hyn yn hyblyg, a gallant ymlynu wrth waliau’r llestri gwaed gan greu rhwystr sy’n arafu neu’n atal llif y gwaed a’r ocsigen a gludir ganddo. Gall hyn achosi argyfwng crymangelloedd tra phoenus. Gall beri heintiau hefyd a niweidio’r organau. Mae celloedd gwaed cochion normal yn byw am ryw 90 i 120 o ddyddiau, ond 10 i 20 niwrnod yn unig y bydd crymangelloedd yn goroesi. O ganlyniad mae anemia’n beth cyffredin. Gall ffactorau megis dadhydradu,  heintiau, straen, eithafion tymheredd neu newid uchder hyd yn oed waethygu clefyd y crymangelloedd.