Rydym yn annog sefydliadau i barhau i ddatblygu a gwella llesiant yn eu gweithle. Gallwch ddefnyddio dogfennaeth y fframwaith dyfarnu o’r gwobrau SWHA a CHS sydd ar gael ar-lein o hyd i'ch helpu i wneud hyn. Mae ein gwefan hefyd yn llawn gwybodaeth a chanllawiau ar bynciau iechyd a llesiant. Mae’r rhain yn cael eu hehangu a'u diweddaru'n rheolaidd.
Rydym hefyd yn parhau i ddatblygu cynhyrchion iechyd a llesiant ac e-ddysgu newydd a chyffrous fel rhan o'n newidiadau rhaglen a fydd ar gael dros y misoedd nesaf.
Wrth i ni gyflwyno ein hoffer arolwg ar-lein dros y flwyddyn nesaf, bydd cyflogwyr yn gallu defnyddio’r rhain i ddeall anghenion iechyd a llesiant eu sefydliad a’u gweithlu yn well. Mae gwaith ar y gweill i allu darparu adroddiadau unigol i gyflogwyr sy'n cwblhau'r offer arolwg sy'n nodi eu meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu wedi'i ategu gan gyfeirio at ganllawiau ac offer perthnasol.