Neidio i'r prif gynnwy

Cymru Iach ar Waith

 

Cymru Iach ar Waith

Amdanom Ni

 

Gweithle Iach, Gweithlu Iach, Busnes Iach

Nod rhaglen Cymru Iach ar Waith yw cefnogi ac annog cyflogwyr i greu amgylchiadau gwaith iach, cymryd camau i wella iechyd a llesiant eu staff, rheoli absenoldebau oherwydd salwch yn dda ac ymgysylltu â gweithwyr yn effeithlon, a gallai hynny oll helpu i gyflawni ystod o ganlyniadau busnes a sefydliadol cadarnhaol.

Mae Rhaglen Cymru Iach ar Waith yn:

  • Cynnig cymorth, digwyddiadau hyfforddi, gweithdai, gwybodaeth ac arweiniad ynghylch cyngor iechyd. 
  • Gweithredu cynllun gwobrau am ddim i gyflogwyr yng Nghymru, wrth gynnig fframwaith i wella iechyd a llesiant gweithwyr, a gwobrwyo cyflogwyr sy’n cymryd camau rhagweithiol i wneud hynny.
  • Cyfrannu at nodau tymor byr a thymor hir cyflogwyr, a’u hategu.
  • Anfon neges bwerus, yn fewnol ac yn allanol, bod cyflogwyr yn ymrwymo i greu amgylchedd gwaith gwell.
  • Cefnogi cyflogwyr i ddatblygu polisïau ac ymgymryd â chamau gweithredu wedi’u cynllunio i hyrwyddo gweithluoedd hapusach ac iachach.
  • Ceisio hyrwyddo cyfathrebiadau a thrafodaethau agored drwy godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd a llesiant a lleihau stigma.

Wedi’i gyflwyno gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Pam mae iechyd a llesiant yn y gwaith yn bwysig?

Mae cyflogwyr yn chwarae rhan allweddol wrth gyfrannu at iechyd a llesiant y gweithlu, oherwydd:

  • Mae gweithwyr yn treulio nifer fawr o’u hamser yn y gwaith.
  • Mae modd atal y 2 achos mwyaf cyffredin o absenoldeb hirdymor gweithwyr yn y DU:
    • Problemau cyhyrysgerbydol
    • Cyflyrau iechyd meddwl
  • Yn y DU, cafodd 119 miliwn o ddiwrnodau eu colli oherwydd absenoldeb salwch yn 2020 (y lefelau isaf ers dechrau cadw cofnodion yn 1995, ond noder, mae’r nifer hwn wedi’i effeithio gan weithwyr ffyrlo).
  • Mae iechyd meddwl gwael yn costio biliynau i gyflogwyr y DU bob blwyddyn, gyda phresenoliaeth yn cael yr effaith fwyaf ar ddiffyg cynhyrchedd.
Pam ddylai cyflogwyr gymryd rhan?

Mae’r Sefydliad Siartredig Datblygu Proffesiynol (CIPD, 2020) yn nodi:

“Mae diwylliant o lesiant, wedi'i yrru gan reolaeth bobl, yn dda i'ch gweithwyr ac yn dda i'ch busnes. Mae’n gwneud y gweithle yn fwy cynhyrchiol, deniadol ac yn lle mwy cymdeithasol gyfrifol i weithio.”

Bydd ymrwymo i iechyd a llesiant yn rhoi hwb i enw da cyflogwr, gan arwain at well profiad wrth recriwtio staff a thalent newydd, yn ogystal ag ymgysylltiad da â gweithwyr a gwell cyfraddau cadw. 

Bydd gweithiwr sy’n teimlo bod ei gyflogwr yn cefnogi ei iechyd a’i llesiant yn rhagweithiol yn:

  • Teimlo ei werth fel gweithiwr.
  • Profi gwell lefelau o forâl, ysgogiad a chynhyrchiant.
  • Profi llai o gyfnodau o absenoldeb oherwydd salwch.
  • Yn fwy parod i aros gyda sefydliad, ac felly’n cadw sgiliau a phrofiad gwerthfawr yn ogystal â lleihau cyfraddau trosiant staff a chostau recriwtio cysylltiedig.
  • Bod yn rhan o weithlu mwy ymgysylltiol a fydd yn cydweithio’n effeithlon.
  • Mwynhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, sydd yn ei dro, yn galluogi’r sefydliad i ffynnu.
Cymhwystra

Mae unrhyw gyflogwr yng Nghymru sy'n cyflogi o leiaf 1 gweithiwr yn gymwys i ymuno â’r rhaglen, am ddim. Rydym yn croesawu cyflogwyr o bob maint ac o unrhyw sector i gymryd rhan gyda Cymru Iach ar Waith.

5 ffordd o ddod i’n hadnabod ni

1. Ewch i'n gwefanwww.healthyworkingwales.wales.nhs.uk

2. Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

   - Twitter: @Healthywork_HWW    

   - Facebook: @HealthyWorkingWales

   - LinkedIn: @Cymru Iach Ar Waith / Healthy Working Wales

3. Gwrandewch ar eich podlediad - YouTube 

4. E-bostiwch ni: Workplacehealth@wales.nhs.uk

5. Tanysgrifiwch i’n e-fwletin misol i gael diweddariadau rheolaidd!