Neidio i'r prif gynnwy

MOT Canol Oes

Teclyn yw MOT Canol Oes i'ch helpu i asesu eich sefyllfa ariannol bresennol a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Bydd eich adroddiad personol yn dweud wrthych beth i'w flaenoriaethu ac yn cysylltu â chanllawiau ar sut i wella eich lles ariannol o ganol oes hyd at ymddeoliad.

Gallwch ddefnyddio'r teclyn hwn i:

  • adnabod camau gweithredu i wella eich cyllid, yn ôl eich blaenoriaethau
  • eich helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol a sicrhau eich bod yn aros ar y trywydd iawn i gyflawni eich nodau

Mae'r teclyn hwn yn gweithio orau i bobl:

  • rhwng 45 a 65 oed
  • byw a chynllunio i ymddeol yn y DU.

Byddwn yn gofyn cyfres o gwestiynau am eich sefyllfa ariannol.

Ni fydd angen unrhyw ddogfennau na gwybodaeth ychwanegol arnoch i ddefnyddio'r teclyn. Bydd yn cymryd tua 5 munud i'w gwblhau.

Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw'n gwbl ddienw, ond gallwch lawrlwytho'ch canlyniadau.

Dechreuwch eich MOT Canol Oes