Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Mae Gwyliadwriaeth Amser Real Hunanladdiad Tybiedig (RTSSS) yn system arolygu lefel y boblogaeth sydd wedi’i datblygu drwy weithio mewn partneriaeth a chydweithio rhwng arweinwyr polisi grwpiau iechyd meddwl ac agored i niwed yn Llywodraeth Cymru; Uned Gyswllt yr Heddlu yn Llywodraeth Cymru; pedwar llu Heddlu Cymru; Rhaglen Cenedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio sydd wedi’i lleoli yng Ngweithrediaeth GIG Cymru; Prifysgol Abertawe, a Chyfarwyddiaeth Data, Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n gweithredu fel gwarcheidwaid cenedlaethol y data ar hunanladdiadau tybiedig.  Sefydlwyd y rhaglen gan ddefnyddio systemau a sefydlwyd eisoes gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. 

Mae gwybodaeth am niferoedd, cyfraddau, a thueddiadau mewn hunanladdiadau yng Nghymru wedi bod ar gael er 1981 ac mae’n parhau i fod ar gael trwy adroddiadau blynyddol, gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae data’r SYG yn ymwneud â marwolaethau drwy hunanladdiad a gadarnhawyd gan grwner cofrestredig yn dilyn cwestau ym mhob blwyddyn, ond mae data’r RTSSS yn ymwneud â hunanladdiadau tybiedig.

Mae’r RTSSS yn ei chamau cynnar o weithredu o hyd, ac mae heriau cynnar yn ymwneud â chasglu, trosglwyddo, glanhau, dehongli ac adrodd data yn brydlon.

Mae’r RTSSS yn casglu gwybodaeth am bobl sy’n marw oherwydd hunanladdiad tybiedig yng Nghymru, a phobl sy’n byw yng Nghymru sy’n marw oherwydd hunanladdiad tybiedig y tu allan i Gymru.  Mae hyn er mwyn i ni allu monitro marwolaethau oherwydd hunanladdiad tybiedig a chreu darlun o batrymau a thueddiadau marwolaethau, er mwyn canolbwyntio’n well ar yr ymdrechion i atal hunanladdiadau.

Mae'r wybodaeth a gesglir yn cynnwys gwybodaeth bersonol adnabyddadwy h.y. enw, cyfeiriad, dyddiad geni'r sawl sydd wedi marw, a gwybodaeth am ei amgylchiadau.  Y rheswm pam mae angen gwybodaeth adnabyddadwy arnom yw er mwyn cysylltu â ffynonellau gwybodaeth eraill i wella ansawdd yr wybodaeth.

Mae gwybodaeth yn cael ei hanfon at Iechyd Cyhoeddus Cymru gan bedwar llu Heddlu Cymru.  Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn derbyn gwybodaeth gan yr Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol, unedau gofal critigol, carchardai, systemau gwyliadwriaeth mewn gwledydd eraill, a’r cyfryngau.  Efallai y byddwn wedyn yn casglu gwybodaeth bellach gan wasanaethau iechyd, carchardai a chrwneriaid.  Rydym yn gwirio ein gwybodaeth yn erbyn systemau eraill y cesglir gwybodaeth ar eu cyfer: Y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant, Uned Gyflawni GIG Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.  Mae'r wybodaeth yn cael ei rhoi ar gronfa ddata ddiogel sy'n hygyrch i aelodau'r tîm RTSSS yn unig.

Y sail gyfreithiol ar gyfer gweithgareddau’r RTSSS yw:

  • Paragraff 3(b) o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009, sef “datblygu a chynnal trefniadau ar gyfer peri bod gwybodaeth ynghylch materion sy'n ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru; gwneud a chomisiynu ymchwil i faterion o'r fath a darparu a datblygu hyfforddiant mewn materion o'r fath”

  • Paragraff 3(c) o Orchymyn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 sy’n datgan fel un o’i swyddogaethau: “gwneud yn systematig y gwaith o gasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth ynghylch iechyd pobl Cymru, gan gynnwys yn enwedig fynychder achosion o gancr, eu marwoldeb a'u goroesiad; a chyffredinolrwydd anghysonderau cynhenid” 

  • O dan ddyletswydd cyfrinachedd y gyfraith gyffredin, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried bod prosesu data personol yn yr RTSSS er budd pennaf y cyhoedd.

  • Cymeradwyaeth Adran 251 (Deddf y GIG 2006) ar gyfer prosesu gwybodaeth gyfrinachol am glaf heb ganiatâd.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â thîm RTSSS ar phw.rtsss@wales.nhs.uk.

 

Cysylltwch â ni

E-bost: PHW.RTSSS@wales.nhs.uk