Neidio i'r prif gynnwy
Nick Elliott

Cyfarwyddwyr Anweithredol: Data a digidol

Amdanaf i

Cyfarwyddwyr Anweithredol: Data a digidol

Mae gan Nick ei ymgynghoriaeth reoli ei hun sy'n arbenigo ym maes Digidol mewn Gofal Iechyd.

Daw Nick â chyfoeth o brofiad o'r sector cyhoeddus a phreifat gydag ef.  Fel y Prif Swyddog Gwybodaeth cyntaf ar lefel Bwrdd yn NHS England, gwnaeth waith arloesol gydag arsylwadau electronig a dyfeisiau symudol wrth erchwyn y gwely.  Llwyddodd i wneud y newid i fod yn Brif Swyddog Gweithredu yn y sector ysbytai, gan drawsnewid perfformiad nifer o ymddiriedolaethau'r GIG drwy ddod â phobl a data at ei gilydd.  Mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad ar lefel Bwrdd yn NHS England yn ogystal â phrofiad gweithgynhyrchu blaenorol.  Yn dilyn ei gyfnod yn y GIG, prynodd ran mewn cwmni apiau clinigol arloesol a’i dyfu cyn ei werthu i ddarparwr EPR mawr yn y DU.  Symudodd Nick i ymgynghori yn bartner yn un o ymgyngoriaethau Iechyd Digidol mwyaf blaenllaw'r DU lle roddodd gyngor i Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ar strategaethau a modelau gweithredu.

Mae Nick bellach yn gweithredu o'i ymgynghoriaeth ei hun yn cefnogi arloeswyr gofal iechyd ac yn darparu cyngor strategol i Fyrddau'r GIG, rhaglenni trawsnewid mawr ac mae’n cyflwyno adolygiadau sefydliadol.

Ar ôl dechrau ei yrfa yn ddadansoddwr, mae Nick yn dal i fod yn angerddol am ddefnyddio data i helpu i yrru gwelliannau mewn iechyd a gofal.