Neidio i'r prif gynnwy
Kate Young

Cyfarwyddwyr Anweithredol

Amdanaf i

Cyfarwyddwyr Anweithredol

Kate Young yw Cyfarwyddwr Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, sef y rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer teuluoedd a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu, sy’n ymgysylltu â dros 4,000 o deuluoedd ledled Cymru.

Mae’n Gadeirydd Cynghrair Gofalwyr Cymru, cynrychiolydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ac mae’n aelod o’r Grwpiau Cynghori Gweinidogol ar gyfer Gofalwyr a Phobl ag Anabledd Dysgu. Mae hefyd yn gwasanaethu ar grwpiau polisi’r Llywodraeth sy’n cwmpasu Fframweithiau Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Iechyd y Cyhoedd, Partneriaethau Rhanbarthol, Arolygu, Diogelu a Hawliau Anabledd.

Mae Kate hefyd yn aelod o Bwyllgor Cymru ar gyfer Cronfa Byw yn y Gymuned y Loteri Genedlaethol ac, am bum mlynedd, bu’n Ymddiriedolwr Cymru ar gyfer Family Fund UK.

Mae gan Kate ddealltwriaeth gadarn o’r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru a’r cyfleoedd a’r heriau iechyd, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y mae’n eu cyflwyno. Mae ganddi ymrwymiad cryf i'r Trydydd sector a grym ymgysylltu â'r gymuned, gan gredu bod ei natur unigryw ac amrywiol, wrth ei dwyn ynghyd â phartneriaid, yn rym gwirioneddol ar gyfer newid ac arloesi.

Mae hi'n eiriolwr angerddol dros hawliau a dewis personol, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn anabledd dysgu a gofalwyr. Yn ofalwr i'w brawd sy'n byw ag anableddau dysgu difrifol ac awtistiaeth, mae ganddi ddealltwriaeth bersonol a phrofiad byw o'r model cymdeithasol o anabledd ac o'r materion anghydraddoldeb ehangach mewn cymdeithas yng Nghymru.