Neidio i'r prif gynnwy
Iain Bell

Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus ac Ymchwil

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus ac Ymchwil

Ymunodd Iain Bell â'r sefydliad ym mis Gorffennaf 2021 o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol lle, fel Dirprwy Ystadegydd Cenedlaethol ar gyfer Polisi Poblogaeth a’r Cyhoedd, roedd yn gyfrifol am gyflawni Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Ar ôl treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa yn gweithio ar benderfynyddion iechyd ehangach dywed ei fod eisoes yn teimlo'n gartrefol yma yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae rôl Iain yn cwmpasu data, gwybodaeth ac ymchwil ac mae'n dod â'i brofiad o weithio trwy'r pandemig yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'r swydd hon. Bydd yn datblygu awydd y cyhoedd ymhellach am ffynonellau data arloesol, gwybodaeth amser real ac ymwybyddiaeth o iechyd y cyhoedd.