Neidio i'r prif gynnwy

26 Hydref 2023

Hysbysir drwy hyn y cynhelir cyfarfod o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau 26 Hydref 2023 am 14:45.

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac mae’n cynnal cymaint o’i fusnes â phosibl mewn sesiynau y mae croeso i aelodau’r cyhoedd eu mynychu a’u harsylwi fel rheol. Fodd bynnag, yng ngoleuni’r cyngor a’r canllawiau presennol mewn perthynas â’r Coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020 fe wnaethom benderfynu er budd gorau amddiffyn y cyhoedd, ein staff ac aelodau’r Bwrdd, na fyddem yn ymgynnull mwyach mewn grwpiau er mwyn cynnal cyfarfodydd. Ers hynny, rydym wedi bod yn cynnal cyfarfodydd Bwrdd rhithwir, ac nid ydym wedi gallu eu ffrydio’n fyw.

 

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn darlledu ein cyfarfod Bwrdd i roi cyfle i unrhyw un sydd â mynediad i'r rhyngrwyd arsylwi mewn amser real. Mae’r ddolen i’r cyfarfod wedi’i chynnwys isod a bydd hefyd yn cael ei rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:

 

Dolen i’r Digwyddiad Byw (Cyfarfod 26 Hydref 2023)

 

Fel mynychwyr byddwch yn gallu arsylwi'r cyfarfod trwy Microsoft Teams - bwrdd gwaith (Windows neu Mac), ar y we, neu ddyfais symudol. Os nad oes gennych chi Microsoft Teams, gallwch hefyd ddefnyddio porwr (Chrome, Firefox neu Edge). Sylwch nad yw Safari yn gweithio ar hyn o bryd.

 

Gallwch weld y cyfarfod yma .

 

Os hoffech fynychu cyfarfod Bwrdd yn bersonol, cysylltwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru .

Os oes gennych unrhyw adborth ar y cyfarfod hwn, neu unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r Bwrdd, anfonwch e-bost at: Iechyd Cyhoeddus Cymru .

 

Papurau


Bydd y papurau ar gael yma .

 

Cofnodion


Mae'r cofnodion ar gael yma.