Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau dyfodol iach ar gyfer y genhedlaeth nesaf

Kids huddled over camera

Byddwn yn gweithio gyda rhieni a gwasanaethau i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.

Mae’r blynyddoedd cynnar yn cael eu diffinio mewn polisi yng Nghymru fel y cofnod rhwng beichiogrwydd a saith mlwydd oed. Mae blynyddoedd cynnar plentyn yn amser allweddol i sicrhau canlyniadau da yn ddiweddarach mewn bywyd gan gynnwys dysgu gwell, mynediad at waith da a bywyd boddhaol.

Erbyn 2030, rydym:

  • am weld mwy o blant yn cyrraedd eu llawn botensial
  • eisiau ein bod wedi cefnogi rhieni i fagu eu plant a bod llai o blant yng Nghymru yn cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs)

Mae hyn yn golygu:

  • cefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant
  • helpu plant i deimlo’n ddiogel drwy atal trawma emosiynol a phwysau niweidiol (atal ACEs)
  • hwyluso perthnasau cefnogol rhwng oedolion a phlant
  • cefnogi gwasanaethau’r blynyddoedd cynnar a hyrwyddo llesiant plant

Erbyn 2030, byddwn wedi:

  • ceisio sicrhau bod gan bob plentyn y dechrau gorau mewn bywyd a byddwn wedi hyrwyddo a  chefnogi system cefnogaeth integredig wedi’i seilio ar y boblogaeth i rieni a theuluoedd
  • wedi cynyddu’r gyfran o leoliadau sy’n cymryd camau i hyrwyddo iechyd yn y blynyddoedd cynnar
  • wedi gweithio gyda phartneriaid i leihau camdriniaeth ac esgeuluso plant
12/09/19
Mae Cynllun Gwên yn 10 oed!

Ym mis Medi, mae Cynllun Gwên, y rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg plant yng Nghymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed.