Oes. Hyd yn oed os ydych yn iach a heb symptomau, os ydych wedi'ch nodi fel cyswllt, mae angen i chi gael eich sgrinio. Mae pob cyswllt agos a phobl sy'n byw gydag achos o TB yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio.
Mae'r sgrinio hwn yn bwysig oherwydd gall nodi a ydych wedi'ch heintio â TB (TB cudd) a/neu wedi datblygu clefyd TB gweithredol.
Dim ond os byddwch yn mynd i gael eich sgrinio y gallwn roi diagnosis o TB.
Gall haint TB cudd a TB gweithredol gael eu trin â chwrs o wrthfiotigau.
Gellir trefnu sgrinio drwy ffonio Ysbyty'r Tywysog Philip ar 01554 756567.