Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydw i'n cael fy mhrofi?

Ysgrifennwyd at unrhyw un sydd wedi'i nodi fel cyswllt rhywun sydd â TB a'i wahodd i gael ei sgrinio.

Os ydych wedi cael llythyr yn y gorffennol sydd wedi nodi y gallech fod yn gyswllt i rywun sydd â TB, ac nad ydych wedi mynd i apwyntiad, ffoniwch 0300 303 8322 a dewis opsiwn 1 ar gyfer profi a brechu.  Bydd eich manylion yn cael eu casglu a bydd aelod o'r tîm anadlol yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad clinig addas. Fel arall, gallwch anfon neges e-bost i contacttracing.hdd@wales.nhs.uk

Yn ystod yr apwyntiad, gofynnir i chi a oes gennych unrhyw symptomau TB (gweler isod), byddwch yn cael prawf gwaed a chymerir pelydr-X o'r frest. Rhoddir canlyniadau'r pelydr-X o'r frest yn ystod y clinig, anfonir canlyniadau'r prawf gwaed atoch, fel arfer o fewn pythefnos. Bydd y tîm anadlu yn edrych ar yr holl ganlyniadau i benderfynu a oes gennych TB Cudd, TB Gweithredol neu os nad oes tystiolaeth o haint TB.

Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich profi os ysgrifennwyd atoch yn flaenorol, a thrwy ddod i gael eich profi byddwch yn helpu i ddod â'r achosion hyn i ben. Neu gallwch anfon e-bost at ask.hdd@wales.nhs.uk.