Neidio i'r prif gynnwy

Ble ydw i'n mynd i gael rhagor o wybodaeth neu help?

Mae rhagor o wybodaeth am TB ar wefan GIG 111 Cymru yn https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/t/article/tuberculosis(tb)?locale=cy&term=A.

Mae TB yn anghyffredin yng Nghymru yn gyffredinol. Mae gan Gymru y gyfradd isaf o TB fesul 100,000 o'r boblogaeth o gymharu â rhanbarthau eraill y DU.

Nid yw TB cudd yn heintus ac ni ellir ei drosglwyddo i bobl eraill a does dim angen triniaeth frys ar bobl sydd â TB cudd. Fodd bynnag, argymhellir triniaeth i'w hatal rhag datblygu clefyd TB gweithredol.

Mae TB gweithredol yn haint difrifol ond un y gellir ei drin sy'n gwella'n llwyddiannus os cymerir gwrthfiotigau am y cyfnod cywir o amser.

Mae TB yn anodd ei drosglwyddo ac mae angen cysylltiad agos a hirfaith ag unigolyn heintus, er mwyn i berson gael ei heintio.

Dylai unrhyw un â symptomau gysylltu â'u meddyg teulu, a fydd yn rhoi cyngor priodol iddynt ac yn eu hatgyfeirio i sgrinio TB os oes angen.