Mae'r adroddiad wedi dweud nad oedd camau cychwynnol yr ymateb i'r achosion o TB wedi'u rheoli'n ddigonol. Mae wedi gwneud argymhellion ynghylch sut y dylid rheoli'r achosion hyn yn y dyfodol ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a BIP Hywel Dda wedi cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar sut y maent yn mynd i fodloni'r argymhellion hyn. Gallwch weld y cynllun gweithredu ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru yma, a chynllun Hywel Dda yma.
Fel y dywed yr adroddiad, gwnaed gwelliant sylweddol o ran y ffordd y mae'r achosion wedi'u rheoli. Mae rhai o'r rhain fel a ganlyn:
- Cafodd y cyfarfodydd rheoli achosion eu cadeirio gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus profiadol, gyda dogfennaeth glir a chamau gweithredu wedi'u cofnodi a'u dilyn mewn cyfarfodydd diweddarach.
- Cafodd y gwaith o olrhain cysylltiadau achosion gweithredol ei ddisgrifio fel “trylwyr”
- Roedd y penderfyniadau a wnaed yn briodol.
Mae'r adnoddau ychwanegol a fuddsoddwyd gan y bwrdd iechyd, hyd yma, yn cynnwys (crynodeb):
- Creu arweinydd TB ar gyfer y Bwrdd Iechyd yn 2014
- Clinigau TB penodedig
- Mae'r holl achosion o TB gweithredol yn cael eu cyflwyno yn yr adolygiad Cohort TB Cymru Gyfan
- Penodi nyrs arbenigol TB benodedig yn 2019. Mae hyn wedi hwyluso ymweliadau cartref a galluogi cleifion i gael nyrs TB benodedig wedi'i dyrannu iddynt a all reoli eu symptomau, sgil-effeithiau a meddyginiaeth.
- Gwasanaeth gweinyddu a fflebotomi TB penodedig ers 2022.