Nododd yr adroddiad sawl maes ac mae'r rhain wedi'u rhestru isod
- Roedd oedi wrth roi diagnosis o'r unigolyn cyntaf a wnaeth ddal TB a golygodd hyn bod yr unigolyn hwnnw yn heintus iawn am gyfnod hir o amser.
- Roedd yr ymateb cychwynnol – hynny yw, dechrau Tîm Rheoli Achosion (OCT)*, ac olrhain cysylltiadau (nodi pobl a allai fod wedi dod i gysylltiad â'r clefyd) yn annigonol, ac nid oedd wedi ymestyn olrhain cysylltiadau yn ddigonol. Roedd rhai pobl a gafodd TB heb eu nodi, ac aethant ymlaen i heintio eraill.
- Cafodd yr OCT cychwynnol yng ngham 1 o'r ymateb ei gau yn rhy gynnar, a chafodd ei ailagor dair gwaith wrth i ragor o achosion ymddangos.
- Yn dilyn dau gam cyntaf yr achosion o TB, roedd y rheolaeth iechyd cyhoeddus wedi gwella'n sylweddol.
- Er yr ystyriwyd ei bod yn foddhaol, nid oedd rheolaeth glinigol cleifion unigol â TB ar ddechrau'r achosion wedi'i chydlynu oherwydd diffyg gwasanaeth TB penodedig a diffyg clinigydd arweiniol.
- Roedd y ddarpariaeth gofal iechyd anadlol leol yn annigonol, ac i raddau helaeth mae penodi Ymgynghorydd (Meddyg) arweiniol a Nyrs TB Arbenigol wedi mynd i'r afael â hyn, ond mae dal angen gwneud rhai gwelliannau i sicrhau bod hyn hyd yn oed yn well.
- Er bod gan BIP Hywel Dda gyfrifoldeb statudol am reoli'r achosion, dylai fod wedi bod yn destun goruchwyliaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Un o argymhellion adolygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd bod angen dull mwy strwythuredig ar achosion, ond nid yw hyn wedi digwydd eto.
- Nid oes gan Gymru Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Twbercwlosis (TB). Er bod un wedi'i chynnig gan y Grŵp Cyflawni Anadlol Cymru, hyd yma nid yw wedi'i fabwysiadu gan naill ai Iechyd Cyhoeddus Cymru na Llywodraeth Cymru. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amrywiaeth newydd o gamau gweithredu er mwyn helpu i atal a rheoli TB yng Nghymru. Gallwch weld y cyhoeddiad hwn yma.
*Mae Tîm Rheoli Achosion yn dîm o bobl o wahanol asiantaethau, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, y bwrdd iechyd lleol, yr awdurdod lleol ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill. Maent yn gyfrifol am reoli achosion o glefyd heintus ac yn gyfrifol am sicrhau ei fod dan reolaeth. Mae'r Tîm Rheoli Achosion yn gweithio gyda'r Cynllun Rheoli Achosion o Glefyd Trosglwyddadwy ar gyfer Cymru.
- Beth yw'r Cynllun Rheoli Achosion o Glefyd Trosglwyddadwy ar gyfer Cymru?
Mae'r cynllun hwn yn cael ei ddefnyddio i reoli'r holl achosion o glefyd trosglwyddadwy yng Nghymru. Mae'n rhan o'r Fframwaith ar gyfer Rheoli Argyfyngau Clefydau Heintus Difrifol ac mae'n cysylltu â chynlluniau a strwythurau Argyfwng Sifil Posibl Cymru Gydnerth.
Mae'r Cynllun ar gyfer Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy yng Nghymru yn hwyluso'r gwaith o sefydlu Tîm Rheoli Achosion (OCT). Mae'r OCT yn drefniant cydweithredol rhwng sefydliadau sy'n gweithredu'r prosesau a nodwyd yn y cynllun hwn.
Mae'r Cynllun Rheoli Clefyd Trosglwyddadwy yn diffinio rolau a chyfrifoldebau'r OCT a'r holl sefydliadau dan sylw (Gweler Rhan 2 a Rhan 3). Penodir Cadeirydd yr OCT yn y cyfarfod cyntaf. Mae'r cynllun yn destun adolygu a gwella rheolaidd. Cafodd yr adolygiad diweddaraf ei gwblhau yn 2022, yn dilyn gwersi a ddysgwyd o'r ymateb i bandemig Covid-19 ledled Cymru. Mae adolygiad manwl pellach wedi'i drefnu ar gyfer 2023.