Neidio i'r prif gynnwy

Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a BIP Hywel Dda yn ei ddweud?

  • Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn estyn ein cydymdeimlad i bawb y mae'r achosion o TB sy'n effeithio ar ardal Llwynhendy o Sir Gaerfyrddin ers 2010 wedi effeithio arnynt.  
  • Mae’n amlwg nad oedd yr ymateb cychwynnol i'r achosion hyn yn foddhaol. Hoffem ddweud wrth unrhyw un y gallai'r digwyddiad hwn fod wedi effeithio arnynt ei bod yn ddrwg iawn gennym.  
  • Mae rheoli achosion mor gymhleth o TB yn heriol oherwydd y rhwydweithiau cymdeithasol cymhleth a'r amserlenni dan sylw sy'n aml yn estynedig.  Mae'n galonogol bod yr adolygiad yn nodi bod yr arweinyddiaeth a'r rheolaeth wedi gwella'n sylweddol yng nghamau diweddarach yr achosion o TB a'n bod yn parhau i weithio'n galed i gynnal y safonau hyn ac adeiladu arnynt. Rydym wedi derbyn argymhellion yr adolygiad yn llawn ac wedi datblygu cynllun gweithredu ar y cyd i fynd i'r afael â nhw.
  • Rydym yn annog y 470 o bobl yng nghymuned Llwynhendy nad ydynt wedi dod i gael eu sgrinio eto i wneud hynny. Gyda'u cefnogaeth nhw gallwn helpu i ddod â'r achosion hyn i ben.  Dylai unrhyw un a gafodd lythyr yn y gorffennol sydd wedi'i nodi fel cyswllt posibl rhywun â TB nad ydynt wedi mynd i apwyntiad sgrinio ffonio 0300 303 8322 a dewis opsiwn 1 ar gyfer profi a brechu er mwyn trefnu hyn. Neu gallwch anfon e-bost at ask.hdd@wales.nhs.uk.
  • Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cymryd ei gyfrifoldeb i ddiogelu iechyd pobl yng Nghymru o ddifrif. Gan gymhwyso a rhannu'r hyn a ddysgir o'r adolygiad allanol, byddwn yn parhau i roi arweinyddiaeth mewn ymateb i TB yng Nghymru a sicrhau bod ein prosesau'n adlewyrchu'r arferion a'r dystiolaeth ddiweddaraf.
  • Erbyn hyn mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru arweinydd TB dynodedig yn y tîm Diogelu Iechyd a fydd yn chwarae rhan bwysig i fwrw ymlaen â hyn.  Canfu'r adolygiad er bod y gwasanaeth TB lleol wedi gwella, mae angen i drefniadau fod ar waith er mwyn sicrhau cydnerthedd y gwasanaeth. Argymhellir gwelliannau i gymorth fferylliaeth a gweinyddol i'r gwasanaeth TB lleol yn ogystal â sicrhau cynllunio ar gyfer olyniaeth clir ar gyfer y Nyrs Arbenigol TB.
  • Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn adolygu canfyddiadau'r adolygiad mewnol a gynhaliwyd yn 2019 i sicrhau bod unrhyw gamau gweithredu nad ydynt wedi'u cwmpasu gan argymhellion yr adolygiad allanol yn cael eu hadolygu a'u gweithredu lle y bo angen.
  • Cysylltwyd yn uniongyrchol â'r rhai y mae'r achosion wedi effeithio arnynt a rhoddwyd gwybod iddynt am ganlyniad yr adolygiad.