Neidio i'r prif gynnwy

Pam y dylwn gael y brechlyn MMR?

Y brechlyn MMR yw'r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o amddiffyn eich hun a'ch plentyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela. Ers cyflwyno'r brechlyn yn 1988, mae'r heintiau hyn wedi mynd yn brin yn y DU. Fodd bynnag, cafwyd achosion o glefyd, yn enwedig y frech goch, yn dilyn gostyngiad yn nifer y bobl sy'n cael y brechlyn.