Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae angen dau ddos o'r brechlyn MMR?

Mae'r brechlyn MMR yn effeithiol iawn wrth amddiffyn pobl yn erbyn y frech goch. Ystyrir bod pobl sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn wedi'u hamddiffyn am oes. Bydd dros 99% o’r rhai sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn yn cael eu hamddiffyn yn erbyn y frech goch a rwbela a bydd tua 88% o bobl yn cael eu hamddiffyn yn erbyn clwy'r pennau. Felly mae angen dau ddos i'ch amddiffyn chi a'r rhai rydych yn gofalu amdanynt.