Mae miliynau o ddosau o'r brechlyn MMR wedi'u rhoi yn fyd-eang ers dros 30 mlynedd. Mae gan y brechlyn record ddiogelwch dda iawn. Mae sgil-effeithiau'r brechlyn MMR fel arfer yn ysgafn. Mae’n bwysig cofio eu bod yn ysgafnach na chymhlethdodau posibl y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Mae sgil-effeithiau yn llai cyffredin ar ôl yr ail ddos.
Weithiau gall pobl deimlo dolur yn rhan y fraich neu'r forddwyd lle rhoddwyd y pigiad. Gall rhai ddatblygu lwmp bach lle rhoddwyd y nodwydd i mewn, a gall yr ardal o'i amgylch fod ychydig bach yn boeth ac yn goch. Mae hyn yn arferol a gall bara rhai wythnosau. Nid oes angen unrhyw driniaeth arno.
Mae'r brechlyn yn cynnwys mathau gwanedig o feirysau byw y frech goch, clwy'r pennau a rwbela. Oherwydd bod y feirysau wedi'u gwanhau, ni all pobl sydd wedi cael y brechlyn heintio pobl eraill. Mae'r tri feirws gwahanol yn y brechlyn yn gweithredu ar wahanol adegau a gallant achosi'r sgil-effeithiau canlynol ar ôl y dos cyntaf.
Mae llai nag un o bob miliwn yn datblygu enseffalitis (chwyddo'r ymennydd) ar ôl y brechlyn MMR, ond prin iawn yw'r dystiolaeth ei fod yn cael ei achosi gan y brechlyn mewn gwirionedd. Fodd bynnag, os bydd rhywun yn dal y frech goch, mae'r risg o ddatblygu enseffalitis dros 100 gwaith yn uwch.
Mae llai nag un o bob miliwn yn cael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu ac a allai achosi iddynt fynd yn anymwybodol. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig a gall hefyd ddigwydd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn eithriadol o brin ac mae meddygon a nyrsys wedi’u hyfforddi i'w rheoli. Gellir trin pobl sy’n cael adwaith anaffylactig yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.
Os oes gennych chi neu'n plentyn dwymyn ac yn teimlo'n sâl ar ôl y brechiad, gallwch chi neu nhw gymryd parasetamol neu ibuprofen. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn yn ofalus a chymryd y dos cywir ar gyfer eich oedran chi neu'ch plentyn. Nid ydym yn argymell cymryd y meddyginiaethau hyn ymlaen llaw i atal twymyn rhag datblygu.
Cofiwch ─ ni ddylai plant o dan 16 oed gymryd meddyginiaethau sy'n cynnwys aspirin.
I gael rhagor o wybodaeth am sgil-effeithiau cyffredin a phrin, gweler:
Os ydych yn pryderu am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (safle allanol). Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Gallwch roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau tybiedig brechlynnau a meddyginiaethau drwy’r cynllun Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn mhra.gov.uk/yellowcard neu chwilio am MHRA Yellow Card yn Google Play neu'r Apple App Store. Neu gallwch ffonio llinell gymorth Yellow Card ar 0800 731 6789 (o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).