Neidio i'r prif gynnwy

Beth mae'r brechlyn MMR yn amddiffyn yn ei erbyn?

Y Frech Goch  

Achosir y frech goch gan feirws heintus iawn a all arwain at gymhlethdodau difrifol a allai fygwth bywyd. Bydd bron bawb sy'n ei dal yn dioddef twymyn uchel a brech a byddant yn sâl iawn. Mae un o bob 15 o bobl yn cael cymhlethdodau, gan gynnwys heintio'r ysgyfaint (niwmonia) a'r ymennydd (enseffalitis). Gall y frech goch ladd – mewn brigiad o achosion o'r frech goch yng Nghymru yn 2013 cafodd dros 1,200 o bobl eu heintio, roedd angen triniaeth ysbyty ar 88 o bobl a bu farw un person. Y frech goch yw un o'r clefydau mwyaf heintus y gwyddom amdano. Rydych chi a’ch plentyn yn agored i'r haint marwol hwn oni bai eich bod wedi'ch amddiffyn gan y brechlyn.  

Clwy’r pennau 

Mae clwy’r pennau yn achosi chwarennau poenus, chwyddedig yn yr wyneb, y gwddf a'r ên, a thwymyn a phen tost/cur pen. Mae'r cymhlethdodau yn cynnwys haint ar yr ymennydd (enseffalitis) a gorchudd yr ymennydd (llid yr ymennydd). Gall hefyd achosi chwyddo poenus yn y ceilliau mewn dynion a'r ofarïau mewn menywod. Mae ychydig o dan hanner yr holl ddynion sy'n cael poen a chwyddo yn y ceilliau sy'n gysylltiedig â chlwy'r pennau yn sylwi ar rywfaint o grebachu o ran eu ceilliau.  

Rwbela  

Mae rwbela (brech goch yr Almaen) yn glefyd a achosir gan feirws a ledaenir gan beswch a thisian. Mae fel arfer yn ysgafn mewn plant ac efallai na fydd neb yn sylwi arni ond gall achosi brech fer, chwarennau chwyddedig a gwddf tost. Ond mae dal rwbela tra'n feichiog yn ddifrifol iawn i'r baban yn y groth. Gall niweidio ei olwg, ei glyw, ei galon a'i ymennydd yn ddifrifol. Gelwir y cyflwr hwn yn syndrom rwbela cynhenid (CRS). Os bydd menywod yn cael haint rwbela yn ystod tri mis cyntaf beichiogrwydd mae'n achosi niwed i'r baban yn y groth mewn hyd at naw o bob 10 achos. Yn ystod y pum mlynedd cyn cyflwyno'r brechlyn MMR, ganwyd tua 43 o fabanod bob blwyddyn yn y DU gyda syndrom rwbela cynhenid.