Neidio i'r prif gynnwy

A oes unrhyw resymau pam na ddylid rhoi'r brechlyn?

 Prin iawn yw'r rhesymau pam na ellir rhoi'r brechlyn MMR. Os ydych chi neu'ch plentyn yn sâl gyda thwymyn ar y diwrnod y mae angen i chi gael y brechiad, gohiriwch yr apwyntiad nes eich bod yn well. Os oes gennych chi neu eich plentyn salwch ysgafn heb dwymyn, fel annwyd, dylech gael y brechiad fel arfer.  

Ni ddylid rhoi'r brechlyn i unrhyw un sydd wedi cael adwaith difrifol (sy'n bygwth bywyd) i ddos blaenorol o'r brechlyn neu unrhyw gynhwysyn yn y brechlyn.  

Ni ddylid rhoi'r brechlyn MMR i fenywod beichiog na phobl sydd â system imiwnedd wannach (sy'n ‘imiwnoataliedig’) oherwydd triniaeth neu glefyd.  

Cyn cael y brechlyn MMR, dylech ddweud wrth y meddyg teulu neu'r nyrs os ydych chi neu'ch plentyn:  

  • â system imiwnedd wannach oherwydd triniaeth ar gyfer cyflwr difrifol, fel trawsblaniad neu ganser, neu'n cymryd lefelau uchel o steroidau neu feddyginiaethau sy'n effeithio'n sylweddol ar y system imiwnedd;  
  • â chyflwr sy'n effeithio ar y system imiwnedd; neu  
  • wedi cael confylsiynau (ffitiau) nad ydynt yn gysylltiedig â thwymyn.  

Dylech hefyd ddweud wrthynt os ydych yn feichiog.