Neidio i'r prif gynnwy

A ellir rhoi'r brechlyn cyn 12 mis oed?

Ddim fel arfer, oherwydd gall imiwnedd a drosglwyddir o'r fam wneud y brechlyn MMR yn llai effeithiol. Weithiau gellir cynnig y brechlyn i blant o chwe mis oed, er enghraifft cyn teithio i ardaloedd lle mae'r frech goch yn mynd ar led neu yn ystod brigiad o achosion. Dylai unrhyw blentyn sy'n cael y brechlyn MMR cyn 12 mis oed barhau i gael dau ddos rheolaidd arall.