Mae gelatin yn sylwedd a ddefnyddir mewn amrywiaeth eang o fwydydd a meddyginiaethau, gan gynnwys brechlynnau. Yn y DU rydym ar hyn o bryd yn defnyddio dau frechlyn MMR, o'r enw MMRvaxPro a Priorix. Mae MMRvaxPro yn cynnwys gelatin moch. Nid yw Priorix yn cynnwys gelatin. Siaradwch â'ch meddyg neu nyrs os oes angen brechlyn arnoch nad yw'n cynnwys gelatin.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Brechlynnau a gelatin moch (Dwyieithog)