Neidio i'r prif gynnwy

Rwy'n bwriadu beichiogi. A ddylwn gael y brechlyn MMR?

Mae rwbela (brech goch yr Almaen) yn brin iawn ond gall fod yn ddifrifol yn ystod beichiogrwydd. Os ydych yn bwriadu cael babi dylech fod wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR. Gan ei fod yn frechlyn byw, ni allwch ei gael pan fyddwch yn feichiog, a dylech osgoi beichiogi am fis ar ôl cael y brechiad MMR.   

Os nad ydych wedi cael dau ddos, cysylltwch â'ch meddygfa cyn gynted â phosibl i ddal i fyny ar unrhyw frechiadau MMR a gollwyd.  

Os ydych yn feichiog neu newydd gael babi ac nad ydych yn siŵr a ydych wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR, siaradwch â'ch bydwraig neu'ch meddyg teulu yn eich apwyntiad nesaf.