Neidio i'r prif gynnwy

Rwyf wedi symud i fyw yn y DU. A oes angen brechlyn MMR arnaf?

Os ydych wedi symud i fyw yn y DU efallai y bydd angen dau ddos o'r brechlyn MMR arnoch. Mae gwahanol wledydd yn cynnig brechiadau gwahanol ac efallai nad yw pob un ohonynt wedi defnyddio'r brechlyn MMR cyfunol. Os nad oes gennych gofnod o'r brechlynnau rydych wedi'u cael neu os nad ydych yn siŵr, trafodwch hyn gyda'ch meddyg teulu neu nyrs. Efallai y bydd angen brechiadau rheolaidd eraill yn y DU arnoch hefyd. Os cafodd eich plentyn ei MMR cyntaf cyn 12 mis oed, bydd angen dau ddos rheolaidd arall o MMR arno ar yr oedrannau a argymhellir.