Neidio i'r prif gynnwy

Beth ddylwn ei wneud os ydw i wedi colli fy mrechiadau MMR neu os yw fy mhlentyn wedi colli ei frechiadau MMR?

Mae'n bwysig dal i fyny ar unrhyw frechlynnau a gollwyd. Gallwch ofyn i'ch meddygfa am y brechlyn MMR os ydych chi neu'ch plentyn wedi colli'r naill ddos neu'r llall.  

Os cafodd y brechlyn MMR ei golli, gellir ei roi o hyd ar unrhyw oedran. Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cael dau ddos o'r brechlyn pan oeddech yn blentyn, gallwch gysylltu â'ch meddyg teulu. Gall wirio eich cofnodion a threfnu i chi gael brechiad dal i fyny os oes angen.