Neidio i'r prif gynnwy

A ydw i'n gymwys i gael y brechlyn MMR fel oedolyn?

Mae oedolion a anwyd yn y DU cyn 1970 yn debygol o fod wedi cael y frech goch, clwy'r pennau a rwbela pan oeddent yn blentyn, felly efallai y byddant eisoes wedi'u hamddiffyn. Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cael yr heintiau hyn ac yn pryderu, trafodwch hyn gyda'ch meddyg teulu neu nyrs.  Os cawsoch eich geni ar ôl 1970, dylech sicrhau eich bod wedi cael dau ddos o MMR yn y gorffennol. Hyd yn oed os ydych yn meddwl eich bod wedi cael y brechlynnau yn y gorffennol ond ddim yn siŵr neu heb gofnod o hyn, mae'n ddiogel cael dosau pellach.