Neidio i'r prif gynnwy

A all plant yn eu harddegau ac oedolion ifanc gael y brechlyn MMR os oeddent wedi'i golli pan oeddent yn iau?

Os nad ydych wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR rydych mewn perygl o ddal y clefydau y mae'r brechlyn yn amddiffyn yn eu herbyn. Os ydych eisoes wedi cael un dos, dim ond un dos arall fydd ei angen arnoch, waeth pa mor bell yn ôl y cawsoch eich dos cyntaf. Os oes angen dau ddos arnoch, gellir eu rhoi fis ar wahân. Cysylltwch â'ch meddygfa cyn gynted â phosibl i ddal i fyny ar unrhyw frechiadau MMR a gollwyd.  

Cyn dechrau yn yr ysgol, prifysgol neu addysg bellach arall dylech sicrhau eich bod wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR.