Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae brechiad y ffliw yn helpu?

Bydd cael brechiad y ffliw yn helpu i ddiogelu eich plentyn rhag y ffliw. Mae’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael eu brechiad fel chwistrell trwyn cyflym a di-boen. 

Mae’r amddiffyniad yn dechrau tua phythefnos ar ol cael y brechiad. Mae’r brechiad fel rheol yn cynnig amddiffyniad da i blant rhag y ffliw. 

Mae hefyd yn helpu i leihau’r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn lledaenu’r ffliw i eraill sy’n wynebu mwy o risg o’r ffliw, fel babanod ifanc, neiniau a theidiau, a’r rhai sydd a chyflyrau iechyd hirdymor. 

Mae rhai pobl yn dal i gael y ffliw hyd yn oed ar ol cael brechiad y ffliw, ond yn aml gyda symptomau ysgafnach. Nid yw brechiadau’r ffliw yn diogelu rhag annwyd, feirysau resbiradol eraill neu salwch arall y gaeaf.