Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau eraill i'w trafod gyda'ch bydwraig

Efallai y cewch gynnig y brechiad MMR, sy'n diogelu rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela, yn fuan ar ôl i chi gael eich babi os nad ydych wedi cael dau ddos o'r brechiad hwn yn flaenorol.  Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cael dau ddos, gwiriwch gyda'ch meddyg teulu.

Mae MMR yn frechiad byw (wedi'i wanhau) felly nid yw'n cael ei roi yn ystod beichiogrwydd. Gallwch gael y brechiad MMR hyd at fis cyn beichiogi neu gallwch gael y brechiad ar ôl i'ch babi gael ei eni.

Pan fydd eich babi'n cael ei eni byddwch yn cael eich gwahodd i ddod ef i gael ei frechiadau rheolaidd, fel arfer yn eich meddygfa neu glinig babi. Bydd eich bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd yn gallu dweud wrthych am y rhain.

Mae brechiadau eraill y byddwch eisiau eu trafod efallai gyda’ch bydwraig. Mae’r rhain yn cynnwys y brechiad BCG, sy'n helpu i amddiffyn rhag TB (twbercwlosis), a’r brechiad hepatitis B. Mae’r brechiadau hyn yn cael eu hargymell ar gyfer rhai babanod yn fuan ar ôl iddynt gael eu geni.

Rhagor o wybodaeth am y brechiadau hyn.