Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn cyfun niwmococol (PCV) Niwmococol (13 seroteip)

Y brechlyn cyfun niwmococol (a elwir yn PCV) a roddir i blant fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio arferol.

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Haint niwmococol (Streptococcus pneumoniae) yw un o achosion mwyaf cyffredin llid yr ymennydd (haint ar leinin yr ymennydd). Mae hefyd yn achosi heintiau clust (otitis media), niwmonia (haint ar yr ysgyfaint) a rhai afiechydon difrifol eraill. Mae hyd at 60% o blant yn cario bacteria niwmococol yng nghefn eu trwyn a'u gwddw. Maent yn trosglwyddo'r bacteria hyn yn hawdd i eraill drwy beswch, tisian a chyswllt agos.

Y brechlyn cyfun niwmococol (a elwir yn PCV) sy'n cael ei roi i blant fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio arferol. Mae hefyd yn cael ei roi i rai unigolion sydd mewn perygl oherwydd cyflyrau meddygol sylfaenol. Mae brechu yn darparu amddiffyniad da rhag haint niwmococol.

Nid yw'r brechlyn yn amddiffyn rhag pob math o haint niwmococol ac nid yw'n amddiffyn rhag llid yr ymennydd a achosir gan facteria neu feirysau eraill.

Mwy o wybodaeth:

 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Mae dau fath gwahanol o frechlyn niwmococol.

Brechlyn cyfun niwmococol (PCV)

Cynigir y brechlyn PCV i bob plentyn dan ddwy oed fel rhan o raglen frechu plentyndod arferol y GIG. Efallai y bydd angen y brechlyn hwn hefyd ar rai unigolion â chyflyrau meddygol sylfaenol. Mae'r dudalen hon yn ymdrin â'r brechlyn PCV.

Imiwneiddio arferol

Cynigir imiwneiddiad arferol gyda PCV i:

  • Babanod dan flwydd oed fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio plentyndod (yn ddeuddeg wythnos oed) os cânt eu geni ar ôl 01/01/2020
  • Dos atgyfnerthu o PCV yn flwydd oed (ar neu ar ôl eu pen-blwydd cyntaf).
Imiwneiddio i'r rhai mewn perygl

Mae rhai cyflyrau meddygol yn cynyddu'r risg o heintiau difrifol fel:

  • Dim dueg
  • Dueg sydd ddim yn gweithio'n dda iawn (gan gynnwys oherwydd clefyd y crymangelloedd a chlefyd seliag)
  • Rhai problemau gyda'ch system imiwnedd (anhwylderau ategol)
  • Imiwnoddiffygiant difrifol.

Gellir cynnig brechlynnau i bobl â chyflyrau penodol yn dibynnu ar eu hoedran adeg diagnosis, eu cyflwr meddygol a brechlynnau blaenorol.

Siaradwch â'ch meddyg neu nyrs os ydych chi'n meddwl bod arnoch chi neu'ch plentyn angen y brechlyn.

Os oes chi gennych unrhyw gwestiynau neu os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am y brechlyn PCV siaradwch â'ch Meddyg Teulu, Nyrs eich Meddygfa, Ymwelydd Iechyd, neu Nyrs Ysgol.

Brechlyn polysacarid niwmococol (PPV)

Cynigir y brechlyn PPV i bobl 65 oed a hŷn ac i bobl sy'n wynebu risg uchel oherwydd cyflyrau iechyd hirdymor. Mae gwybodaeth am y brechlyn PPV ar gael ar dudalen Brechlyn polysacarid niwmococol (PPV) (23 seroteipiau).

 

Am y brechlyn

Rhoddir PCV 13 (Prevenar 13) i fabanod yng Nghymru fel rhan o raglen imiwneiddio arferol y GIG, ac i rai pobl sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol.

Mae'r brechlyn yn anweithredol. Bydd babanod fel arfer yn cael y brechlyn fel pigiad yn rhan uchaf eu coes (clun) neu ran uchaf y fraich. Bydd plant hŷn ac oedolion yn cael y brechlyn yn rhan uchaf eu braich fel arfer.

Gallwch gael gwybod mwy am y brechlyn hwn drwy ddarllen y daflen i gleifion sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

Os yw'ch plentyn wedi methu unrhyw ddosau siaradwch â'ch meddyg teulu neu nyrs y feddygfa am gyngor.

Sgîl-effeithiau'r brechlyn eryr

Fel y rhan fwyaf o frechlynnau, gall y brechlyn niwmococol achosi sgîl-effeithiau ysgafn weithiau, gan gynnwys:

  • tymheredd fymryn yn uchel
  • cochni yn safle'r pigiad
  • caledi neu chwydd yn safle'r pigiad.

Mae adweithiau eraill yn anghyffredin neu'n brin. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin, anghyffredin a phrin edrychwch ar:

Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (tudalen allanol) ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

 

Gwybodaeth i'r cyhoedd

Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlyn PCV 13 neu'r afiechyd mae'n amddiffyn rhagddo, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.