Dyma ymarfer bach y gallwch ei wneud unrhyw bryd ac unrhyw le, yn enwedig pan fyddwch yn teimlo eich bod wedi cael diwrnod caled.
- Arhoswch am eiliad, eistedd i lawr os hoffech - gwnewch eich hun yn gysurus ac arafu eich anadlu.
- Efallai y byddwch am gau eich llygaid neu ddal eich dwylo at eich calon.
- Meddyliwch am yr hyn rydych yn ddiolchgar amdano. Beth ydych chi'n ffodus i'w gael yn eich bywyd? Beth rydych yn teimlo'n ddiolchgar amdano?
- Gorffennwch y frawddeg hon - “Rwy'n ddiolchgar am… “
- Canolbwyntiwch ar yr hyn sy'n dod i'r meddwl, sylwch ar sut mae'n gwneud i chi deimlo a dywedwch hynny'n uchel os dymunwch.