Er nad ydych wedi cael symptomau, rydych chi’n dal i allu pasio'r feirws i bobl eraill. Mae'n rhaid i chi barhau i ddilyn y cyngor ‘Hunanynysu’ a ‘Dychwelyd i'r gwaith' a amlinellir uchod yn ‘Os ydych chi'n weithiwr allweddol wedi cael canlyniad prawf POSITIF ar gyfer haint COVID-19’. Dylid defnyddio'r dyddiad y cynhaliwyd eich prawf COVID-19 fel diwrnod cyntaf y cyfnod hunanynysu 7 diwrnod. Os byddwch yn datblygu symptomau o fewn y 7 diwrnod hynny, yna defnyddiwch ddyddiad cychwyn eich symptomau fel diwrnod cyntaf eich cyfnod hunanynysu. Defnyddir yr un dyddiad (naill ai dyddiad eich prawf neu ddyddiad dechrau eich symptomau newydd) fel diwrnod cyntaf y cyfnod ynysu 14 diwrnod ar gyfer aelodau eich cartref. Symptomau Rheolaidd Mae COVID-19 yn haint newydd, ac rydym yn darganfod mwy amdano dros amser. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod a allwch chi gael COVID-19 eto ar ôl gwella ohono. Felly, os byddwch yn datblygu rhagor o symptomau sy'n gyson â COVID-19, y cyngor ar hyn o bryd yw y dylech chi ac aelodau eich cartref hunanynysu eto a chewch ofyn am brawf arall. |