1. Pobl a nodir fel rhai sydd wedi dod i gysylltiad â COVID-19 Os oes rhywun wedi siarad â chi neu os ydych wedi cael eich nodi fel cyswllt i achos o COVID-19 a'ch bod o fewn eich cyfnod hunanynysu 14 diwrnod, dylech barhau i ddilyn y cyngor ar https://llyw.cymru/profi-olrhain-diogelu-coronafeirws Er gwaethaf prawf negyd dol (gyda symptomau neu heb), mae'n rhaid i chi barhau i hunanynysu nes bod y cyfnod heintus 14 diwrnod ar ben. Os byddwch yn teimlo'n sâl eto ar ôl y cyfnod heintus 14 diwrnod, dylech hunanynysu eto, ac efallai y bydd angen prawf arall arnoch. 2. Pobl nad ydynt yn gwybod eu bod wedi dod i gysylltiad â COVID-19 Nid yw eich prawf negatif yn diystyru nad COVID-19 yw’r haint yn bendant, ond mae'n golygu ei bod yn fwy tebygol bod gennych symptomau o ganlyniad i haint gwahanol, fel y ffliw neu heintiau eraill sy'n achosi peswch ac annwyd. Mae'n bwysig nad ydych yn trosglwyddo'r heintiau hyn ychwaith, a dylech barhau i hunanynysu nes eich bod yn well. Felly, os ydych yn gweithio gyda phobl sy'n agored i niwed, ni ddylech ddychwelyd i'r gwaith nes bydd 7 diwrnod wedi bod ers i’r symptomau gychwyn, a hynny dim ond:
Os nad ydych yn gweithio'n rheolaidd gyda phobl sy'n agored i niwed, gallwch ddychwelyd i'r gwaith os nad yw eich tymheredd yn uchel (heb gymryd meddyginiaethau fel paracetamol, ac ati) a'ch bod yn ddigon iach yn feddygol i wneud hynny. Os byddwch yn teimlo'n sâl eto, dylech hunanynysu eto, ac efallai y bydd angen prawf arall arnoch. Os ydych wedi cael canlyniad prawf NEGATIF ond nad ydych erioed wedi cael unrhyw symptomau, nid oes angen i chi hunanynysu. Os byddwch yn teimlo'n sâl ar ôl hyn, dylech hunanynysu, ac efallai y bydd angen prawf arall arnoch. Nodwch y dylech roi gwybod eich canlyniad i'ch cyflogwr cyn gynted â phosibl ar ôl ei gael. Cysylltwch â'ch cyflogwr ynghylch dychwelyd i'r gwaith neu absenoldeb salwch fel y bo'n briodol. Gall hyn gynnwys asesiad iechyd galwedigaethol. |