Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniad NEGATIF i brawf gwrthgyrff COVID-19

Os yw eich prawf gwrthgyrff yn negatif, mae'n golygu nad ydym wedi canfod gwrthgyrff i'r firws sy'n achosi COVID-19 yn eich gwaed.

Gallai hyn olygu:

  • Nad ydych wedi dod i gysylltiad â’r feirws sy'n achosi COVID-19 (coronafeirws newydd)
  • Mae lefelau eich gwrthgyrff yn rhy isel i ni eu canfod.  Efallai bod hyn oherwydd eich bod wedi cael yr haint yn ddiweddar ac nad ydych wedi cynhyrchu gwrthgyrff eto, neu oherwydd eich bod wedi cael yr haint amser maith yn ôl, a bod lefelau’r gwrthgyrff wedi gostwng.