Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am Brofion Gwrthgyrff COVID-19

Cefndir

Mae'r wybodaeth ar y dudalen we hon ar gyfer unigolion (gan gynnwys athrawon a gweithwyr gofal iechyd) heb symptomau sydd wedi cael prawf gwaed ar gyfer gwrthgyrff COVID-19. 

Nid yw ar gyfer y bobl hynny sy'n sâl ac sydd wedi cael prawf i weld a yw’r haint arnynt ar hyn o bryd ai peidio.  Os byddwch yn datblygu symptomau sy'n gyson â COVID-19, rhaid i chi hunanynysu, ac efallai y bydd arnoch angen swab ar gyfer COVID-19.

Mae’r wybodaeth gefndirol a ddarparwyd adeg eich prawf ar gael yma.




Profion Gwrthgyrff

Mae’r corff yn cynhyrchu gwrthgyrff mewn ymateb i haint (ymateb imiwnyddol).  Fel arfer, gellir eu canfod yn y gwaed tua 2 wythnos ar ôl haint diweddar.  Mae gwrthgyrff hefyd yn cael eu cynhyrchu mewn ymateb i frechiad.

Gan fod COVID-19 yn haint newydd, nid ydym yn gwybod am ba mor hir y bydd y gwrthgyrff i'r feirws hwn (coronafeirws newydd) yn para, neu a fyddant yn eich diogelu rhag mwy o heintiau COVID-19.  Wrth i'r dystiolaeth wyddonol gynyddu, gobeithiwn gael yr atebion i'r cwestiynau hyn.

Bydd yr wybodaeth o'r profion gwrthgyrff yn ein helpu ni i ddeall faint o bobl sydd wedi cael yr haint yn y gorffennol, a sut y mae wedi lledaenu ymysg y boblogaeth. 

Canlyniadau Profion