Neidio i'r prif gynnwy

Pam yr ymchwilir i fitamin D yn ystod pandemig COVID-19?

Cyhoeddwyd ambell adroddiad sy'n ymchwilio i weld a allai lefelau fitamin D fod yn gysylltiedig â risg COVID-19. Mae NICE, ynghyd â Public Health England (PHE), wedi adolygu'r adroddiadau hyn. Daethant i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd i brofi a yw fitamin D yn effeithio ar ymateb y corff i COVID-19. 

Mae treialon parhaus yn ymchwilio i fitamin D a COVID-19 ar hyn o bryd. Bydd NICE a PHE yn parhau i fonitro'r ymchwil a byddant yn diweddaru eu cyngor gyda'r canlyniadau.

Bydd llawer o bobl yn treulio mwy o amser dan do oherwydd COVID-19, er enghraifft, oherwydd cyfyngiadau symud neu weithio gartref. Gall hyn olygu bod eu lefelau fitamin D yn is na'r arfer oherwydd eu bod wedi dod i gysylltiad â golau’r haul yn llai na'r arfer. Felly mae'n bwysicach fyth sicrhau eich bod yn cymryd atchwanegiad fitamin D i'ch gwarchod rhag diffyg fitamin D.