Neidio i'r prif gynnwy

O ble ydw i'n cael fitamin D?

Gwneir fitamin D yn y croen ar ôl i'r croen ddod i gysylltiad â golau haul. Yn ystod misoedd yr haf yn y DU, mae'r rhan fwyaf o bobl yn gallu gwneud digon o fitamin D os ydynt yn dod i gysylltiad digonol â golau’r haul. Fodd bynnag, yn y gaeaf pan fydd yr haul yn rhy isel yn yr awyr, nid yw'n bosibl gwneud digon o fitamin D o olau'r haul yn unig. Dyna pam yr argymhellir cymryd atchwanegiad fitamin D 10 microgram (400 uned) rhwng mis Hydref a mis Mawrth bob blwyddyn. Ffordd hawdd o gofio hyn yw pan fydd eich cysgod yn hirach na'ch taldra, ni fyddwch yn gwneud unrhyw fitamin D o'r haul.

Mae fitamin D hefyd i'w gael mewn bwyd, er enghraifft: 
-    Pysgod olewog fel eog, sardinau, penwaig, macrell 
-    Cig coch, afu 
-    Melynwy 
-    Bwydydd cyfnerthedig fel grawnfwydydd brecwast a marjarîn

Mae'n anodd cael eich gofyniad dyddiol o fitamin D o fwyd yn unig, ond argymhellir cynnwys bwydydd sy'n darparu fitamin D yn eich diet o hyd. Mae'n bwysig cynnal diet iach, amrywiol a chytbwys i sicrhau eich bod yn cael digon o faetholion eraill fel fitaminau, mwnau a ffibr. Gweler y Canllaw Bwyta'n Dda am fanylion pellach.