Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw fitamin D?

Mae angen fitamin D er mwyn cael esgyrn a chyhyrau iach. Mae'n helpu'r corff i reoleiddio lefelau calsiwm a ffosffad, a dyna sut mae fitamin D yn helpu i atal y llechau mewn plant, ac osteomalacia (cyflwr sy'n achosi poen esgyrn) mewn oedolion. Mae fitamin D hefyd yn cyfrannu at gadw'r cyhyrau'n gryf.

Efallai y bydd oedolion â lefelau isel o fitamin D yn profi poen a gwendid yn eu cyhyrau a’u hesgyrn. Gall plant sydd â lefelau fitamin D isel fod mewn perygl o gael y llechau.