Neidio i'r prif gynnwy

Trên yn dod oddi ar y cledrau yn Llangennech: cyngor iechyd y cyhoedd ar lygredd disel

Dywedodd Andrew Kibble o Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’n annhebygol y bydd unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad â’r disel am gyfnod byr yn profi unrhyw effeithiau niweidiol ar ei iechyd, ond mae’n dal yn synhwyrol osgoi dod i gysylltiad â disel neu’r dŵr mewn ardaloedd halogedig.

“Gall disel gynhyrchu anweddau sy'n arogli. Yn gyffredinol, mae’n bosibl sylwi ar aroglau mewn crynodiadau ymhell islaw'r rhai sy'n achosi niwed, ond gall crynodiadau uchel achosi pendro, cysgadrwydd a chur pen. Os byddwch chi'n dod ar draws arogleuon, ewch o'r ardal ac i awyr iach.

“Os bydd unrhyw un yn cael disel ar ei groen, dylai dynnu unrhyw ddillad yr effeithir arnynt a’u golchi gan ddefnyddio sebon a dŵr ac os bydd yn teimlo’n sâl, dylai gael sylw meddygol.

“Byddem hefyd yn cynghori y dylid sicrhau nad yw'r un anifail anwes yn dod i gysylltiad â'r disel ac nad yw aelodau'r cyhoedd yn codi unrhyw adar nac anifeiliaid eraill y mae disel yn effeithio arnynt o ymyl y traeth.”