Neidio i'r prif gynnwy

Trafod Gwelliant, podlediad newydd sbon gan Gwelliant Cymru

Cyhoeddwyd: 6 Medi 2022

Mae Gwelliant Cymru wrth eu boddau i lansio cyfres newydd sbon o bodlediadau, sef Trafod Gwelliant, sy’n ofod diogel i drafod popeth yn ymwneud â gwelliant. Bydd y gyfres yn trafod popeth o offer, technegau, methodolegau a fframweithiau i straeon personol o brosiectau gwella, gan gynnwys eu llwyddiannau a’u heriau.  

Yn y gyfres gyntaf, bydd Gwelliant Cymru yn arddangos rhai straeon gwella ardderchog ar draws y system iechyd a gofal yng Nghymru, gan siarad am bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o sepsis a thrafod offer a thechnolegau yn y gofod gwella ac arloesi.

Mae'r penodau'n cynnwys:

'Barod i Fynd', gwella llif cleifion a diogelwch cleifion yn Ysbyty'r Tywysog Siarl gyda Catherine Roberts, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Grŵp Lleoliad Integredig Merthyr a Chynon a Robert Foley, Pennaeth Llif Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Codi ymwybyddiaeth am sepsis gyda Terence Canning, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru ar gyfer Ymddiriedolaeth Sepsis y DU.

Gwella ac arloesi gyda Dr Philip Webb, Prif Weithredwr Arloesedd Anadlol Cymru.

Y prif egwyddorion sydd wrth wraidd ‘Ffordd Toyota’ gyda Nick Pearn, Prif Arbenigydd Toyota Lean Management Centre. 

Dywedodd John Boulton, Pennaeth Gwelliant Cymru:

"Rydyn ni’n gyffrous iawn am lansiad ein podlediad newydd a fydd yn rhoi cyfle gwych i ddangos y gwaith gwelliant ardderchog sy’n digwydd ym maes iechyd a gofal yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn adnodd defnyddiol i addysgu ac ysbrydoli. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gyfres hon, mae wedi bod yn fraint cael clywed eich straeon."

Bydd penodau’r gyfres gyntaf yn cael eu rhyddhau bob wythnos. Gallwch wrando a thanysgrifio i bodlediad Trafod Gwelliant ar Apple Podcasts, Spotify ac ar blatfformau podlediadau eraill. 

Os hoffech gymryd rhan mewn pennod o’n podlediad yn y dyfodol, cwblhewch y ffurflen fer hon