Neidio i'r prif gynnwy

Pobl yng Nghaerffili yn cael eu hannog i gadw pellter cymdeithasol gan fod clystyrau o'r coronafeirws yn achos pryder

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn annog pobl yng Nghaerffili i gofio pwysigrwydd hanfodol cadw pellter cymdeithasol, gan fod niferoedd cynyddol o achosion o'r coronafeirws (COVID-19) yn achos pryder.

Dywedodd Dr Rhianwen Stiff, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Bu cynnydd sylweddol o ran nifer yr achosion positif o'r coronafeirws yng Nghaerffili yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ac mae ein hymchwiliadau yn nodi bod diffyg cadw pellter cymdeithasol gan grŵp bach o bobl o bob grŵp oedran, mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol wedi arwain at ledaeniad y feirws i rannau eraill o'r boblogaeth.

“Mae’n ymddangos, wrth i'r cyfyngiadau symud lacio, bod pobl wedi manteisio ar y posibiliadau mwy ar gyfer gweithgareddau, ond mae'n ymddangos eu bod wedi anghofio pwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol – gan arwain at drosglwyddo posibl yn y gymuned ehangach.

“Mae’n amlwg bod y feirws yn lledaenu'n haws mewn lleoliadau dan do, a dylai pobl gymryd gofal ychwanegol i gadw pellter cymdeithasol yn yr achosion hyn er mwyn cadw eu hunain a'u ffrindiau a'u teuluoedd mor ddiogel â phosibl.

“Mae’r cynnydd hwn mewn achosion positif yng Nghaerffili yn dangos nad yw Coronafeirws wedi diflannu.  Cyfrifoldeb pawb o hyd yw helpu i atal lledaeniad y feirws hwn – hynny yw, drwy hunanynysu pan ofynnir i ni wneud hynny, cadw dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill, a thrwy olchi dwylo'n rheolaidd.

“Rwy'n gwneud apêl uniongyrchol i bawb gofio, hyd yn oed os ydynt yn teimlo na fyddai COVID-19 yn effeithio'n wael arnynt pe baent yn profi'n bositif amdano, gallant ei drosglwyddo'n hawdd i aelodau o'r teulu, ffrindiau neu gydweithwyr agored i niwed neu hŷn a allai arwain at ganlyniadau difrifol, hyd yn oed yn angheuol.

“Yn ogystal, byddwn yn atgoffa pawb bod rheoliadau Llywodraeth Cymru yn cyfyngu ar gynulliadau cymdeithasol i 30 o bobl yn yr awyr agored, a dylid cadw pellter cymdeithasol ym mhob achos. 

“Rwy'n deall nad yw'n hawdd glynu wrth y mesurau hyn, ac maent yn gwneud ein gwaith a'n bywydau cymdeithasol yn fwy anodd, ond os bydd pawb yn cymryd y camau hyn byddwn yn sicrhau bod ein cymuned yn lle mwy diogel i bawb – gan gynnwys y mwyaf agored i niwed.

“Yn ogystal, os oes gennych blant sy'n mynd i'r ysgol, i'r coleg neu leoliadau gofal plant eraill, ac mae unrhyw aelod o'ch cartref wedi profi'n bositif neu ddatblygu symptomau ni ddylech anfon eich plant i'r ysgol. Byddant yn cael eu hystyried fel cysylltiadau a bydd angen iddynt ynysu am 14 diwrnod. Os ystyrir eich bod yn gyswllt a'ch bod yn cael prawf negyddol, dylech barhau i ynysu am y cyfnod 14 diwrnod.”

Cadarnhawyd hefyd y byddai canolfan brofi galw i mewn dros dro yn cael ei sefydlu ac yn weithredol yng Nghanolfan Hamdden Caerffili yn fuan, er mwyn galluogi trigolion i gael gafael ar brofion yn hawdd a helpu'r ymchwiliad i'r clwstwr o achosion positif newydd.  Ni fydd angen i drigolion Caerffili drefnu apwyntiad er defnyddio'r gwasanaeth profi galw i mewn.

Dywedodd Dr Stiff: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio mewn partneriaeth amlasiantaeth yng Ngwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Gwent, sy'n cynnwys Gwasanaeth Iechyd Amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a gyda'n gilydd rydym wedi cytuno bod angen sefydlu canolfan brofi dros dro er mwyn rheoli'r lefel uwch o achosion.

“Byddwn yn gwahodd unrhyw un o drigolion Caerffili sydd wedi nodi hyd yn oed y symptomau mwyaf ysgafn o'r Coronafeirws, neu os ydynt wedi bod yn teimlo'n anhwylus yn gyffredinol am ddim rheswm amlwg, i ddod i gael prawf.  Mae manylion am sut i gael prawf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a bydd lleoliad y ganolfan galw i mewn dros dro yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach heddiw (dydd Gwener 4 Medi).

“Mae nodi'r unigolion hynny nad oes ganddynt symptomau difrifol ond sy'n cario'r feirws yn hanfodol er mwyn atal lledaeniad y feirws.  Drwy gael prawf, hunanynysu a dilyn mesurau i gadw pellter cymdeithasol, byddwn yn gallu delio â'r clwstwr hwn o achosion a chadw Caerffili'n ddiogel.”