Neidio i'r prif gynnwy

Penodi aelodau newydd o fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae tri Chyfarwyddwr Anweithredol newydd wedi'u penodi i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r Athro Diane Crone, yr Athro Sian M Griffiths, a Mohammed Mehmet yn ymgymryd â'u swyddi y mis hwn, gan ddod ag amrywiaeth o brofiad rhyngwladol a domestig gyda nhw ym maes iechyd cyhoeddus, addysg uwch, awdurdod lleol a chwaraeon. 

Fel aelodau Anweithredol o'r Bwrdd, bydd y penodiadau newydd yn gweithio ochr yn ochr â Chyfarwyddwyr Gweithredol fel rhan o fwrdd unedol, ac yn helpu i ddatblygu a llywio cyfeiriad strategol a diwylliant sefydliadol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Wrth sôn am y penodiadau, dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Jan Williams:

“Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi penodi Diane, Sian a Mohammed i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Maent yn dod â chyfoeth o arbenigedd a phrofiad ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw o amgylch y Bwrdd - er bod hynny yn rhithwir ar hyn o bryd! Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl arweinyddiaeth systemau hanfodol i'w chwarae ar yr adeg hollbwysig hon a bydd ein haelodau Bwrdd newydd yn gwneud cyfraniad mawr.”

Bywgraffiadau

Yr Athro Diane Crone

Mae gan yr Athro Crone dros 20 mlynedd o brofiad o Addysg Uwch yng Nghymru a Lloegr.

Cyn ei chyflogaeth mewn prifysgolion, gweithiodd yn flaenorol ym maes llywodraeth leol ac yng ngwasanaethau sylfaenol ac eilaidd y GIG.

Roedd ei gwaith yn y rolau hyn yn cynnwys cyflwyno ymyriadau ffordd iach o fyw iechyd cyhoeddus, yn arbennig ym maes gweithgarwch corfforol, iechyd meddwl a llesiant.

Ers symud i'r sector prifysgol, dyfarnwyd iddi benodiadau proffesiynol mewn dwy brifysgol yn y DU, ym maes ymarfer corff ac iechyd.

Mae'n aelod o Grŵp Cynghori Arbenigol Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar yr ymgyrch ‘Every Mind Matters’ ac ar hyn o bryd mae'n Athro ymarfer corff ac iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Yr Athro Sian M Griffiths

Drwy gydol ei gyrfa, mae'r Athro Griffiths wedi cyfuno gwaith academaidd a gwasanaeth ym maes iechyd cyhoeddus ag amrywiaeth o rolau cenedlaethol a byd-eang.

A hithau'n gyn-Lywydd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU, tan 2005 roedd gyrfa’r Athro Griffiths yn feddyg iechyd cyhoeddus yn y DU gydag amrywiaeth o brofiad ar lefel weithredol ac anweithredol.

Ar hyn o bryd mae'n Athro Emeritws Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Tsieina Hong Kong, Athro Gwadd yng Ngholeg Imperial Llundain ac yn Gyfarwyddwr Cyswllt Iechyd Cyhoeddus Lloegr, a Dirprwy Gadeirydd GambleAware.

Mohammed Mehmet

Mae gan Mohammed ddeng mlynedd ar hugain o brofiad ym maes llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys Cyfarwyddwr Addysg yn Islington, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant yn Peterborough ac, am un ar ddeg mlynedd, yn Brif Weithredwr dwy sir yng Nghymru: Sir Ddinbych a Phowys.

Mae wedi gwasanaethu ar fyrddau gweinidogol cenedlaethol, gan gynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Bwrdd Adfer Addysg Merthyr Tudful. Ers 2018, bu'n Gyfarwyddwr Anweithredol Dŵr Hafren Dyfrdwy, ac yn fwy diweddar yn un o ymddiriedolwyr Cymorth Canser Macmillan a MIND yn Enfield.

Ynglŷn â'r Bwrdd

Mae Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithredu fel corff penderfynu corfforaethol, gyda Chyfarwyddwyr Anweithredol a Gweithredol yn aelodau llawn a chyfartal ac yn rhannu cyfrifoldeb corfforaethol am y penderfyniadau y mae'n eu gwneud.

Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb am gyfeiriad strategol, pennu ein harchwaeth risg a'r fframwaith llywodraethu, diwylliant a datblygiad sefydliadol, datblygu perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid, ac ar gyfer goruchwylio'r broses o gyflawni nodau ac amcanion Iechyd Cyhoeddus Cymru.