Neidio i'r prif gynnwy

Offeryn arloesol newydd yn cymhwyso Gwerth Cymdeithasol i wella canlyniadau iechyd cyhoeddus a gwerth am arian

Cyhoeddwyd: 29 Mehefin 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio rhaglen arloesol o waith, sy'n cymhwyso dull Gwerth Cymdeithasol i adeiladu ‘Iechyd Cyhoeddus sy'n seiliedig ar Werth’ er mwyn helpu i sicrhau bod rhaglenni iechyd cyhoeddus effeithiol ac economaidd yn cael eu darparu yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae'r Gronfa Ddata ac Efelychwr Gwerth Cymdeithasol (SVDS) ar gyfer Iechyd Cyhoeddus, wedi'i ddatblygu ar gyfer storio a thrin tystiolaeth o economeg iechyd. Ei nod yw cofnodi, mesur a modelu Gwerth Cymdeithasol ac Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) rhaglenni iechyd cyhoeddus, gan asesu eu canlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach. Mae'r offeryn yn ceisio llywio a hwyluso gwneud penderfyniadau cost-effeithiol a chynaliadwy, blaenoriaethu buddsoddiadau a gwella ansawdd yn yr adferiad o'r Coronafeirws.

Wedi'i arwain gan Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae hyn yn rhan o ymgyrch sefydliadol a byd-eang ehangach tuag at gynyddu Gwerth ac Effaith er budd pobl, cymunedau, cymdeithas, yr economi a'r blaned.  

Meddai Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn ymrwymedig i sicrhau'r gwerth gorau am arian o'n gwasanaethau a'n hymyriadau, tra'n cefnogi GIG ac economi mwy cynaliadwy a chydnerth yng Nghymru, gan roi iechyd a llesiant y boblogaeth yn ganolog i hyn. Mae'r offeryn a'r portffolio gwaith ehangach yn darparu gwybodaeth hanfodol i helpu i lywio iechyd cyhoeddus a gwneud penderfyniadau ehangach, blaenoriaethu buddsoddiad a gwella rhaglenni. 

“Mae hyn yn arbennig o bwysig ac amserol wrth i ni barhau i reoli drwy bandemig Covid-19, lliniaru niwed, harneisio cyfleoedd ar gyfer arloesi ac ymateb i siocdon o heriau, gan gynnwys pwysau cynyddol ar y GIG, yr argyfwng costau byw, effaith fyd-eang y rhyfel yn Wcráin, a newid hinsawdd.” 

Meddai Chris Brown, Pennaeth Swyddfa Ewrop Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygu Sefydliad Iechyd y Byd yn Fenis, yr Eidal:

“Rydym yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i greu amgylcheddol sy'n galluogi ar gyfer buddsoddiad cynaliadwy mewn iechyd a llesiant ar gyfer pobl yng Nghymru ac ar draws Ewrop. “ 

“Gall yr offeryn hwn arwain a hysbysu llywodraethau, iechyd a chyrff cyhoeddus eraill i ganolbwyntio eu hadnoddau lle maent yn cyfrif fwyaf drwy fuddsoddi mewn bywydau iachach heddiw, a dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bob Ewropead, gan symud i economïau lles.” 

Meddai Dr Mariana Dyakova, Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ac Arweinydd Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn datblygu'r gwaith hwn, a ddechreuwyd cyn pandemig Covid-19, er mwyn helpu i adeiladu dull systemau o gryfhau'r achos dros fuddsoddi mewn iechyd a llesiant y boblogaeth. 

“Y Gronfa Ddata ac Efelychwr ar gyfer Iechyd Cyhoeddus yw'r cyntaf i ddwyn ynghyd a modelu cymhwyso SROI i iechyd cyhoeddus a gwella'r modd y gweithredir Gwerth Cymdeithasol ar gyfer adeiladu Iechyd Cyhoeddus sy'n seiliedig ar Werth fel rhan o Ofal Iechyd sy'n seiliedig ar Werth yng Nghymru. 

“Rydym hefyd yn ceisio archwilio a datblygu ymhellach y cysyniad, methodoleg a defnydd bywyd go iawn o'r Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad i wella iechyd a llesiant, a lleihau annhegwch iechyd yng Nghymru a thu hwnt.” 

Mae'r SVDS ar gyfer iechyd cyhoeddus ar gael yma: https://svdspublichealth.methods.co.uk/ a gallwch wneud cais am fynediad drwy anfon neges e-bost i: international.health@wales.nhs.uk i gofrestru a chael manylion mewngofnodi. 

Gallwch ddysgu rhagor am ein gwaith o'r llyfryn ‘Buddsoddi Cynaliadwy mewn Iechyd a Llesiant y Boblogaeth: Tuag at Iechyd Cyhoeddus sy'n seiliedig ar Werth’ , sy'n rhoi amlinelliad o gysyniadau allweddol, enghreifftiau o gymhwyso, a chyfres o adnoddau i gefnogi cydweithwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid i ddatblygu'r agenda hon.