Neidio i'r prif gynnwy

Offeryn adrodd newydd Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus yn cael ei ryddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru – y diweddariad cyntaf ers 2019

Cyhoeddwyd: 29 Medi 2022

Wedi'i lansio gyntaf yn 2016, mae Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi dealltwriaeth gyffredin o'r canlyniadau iechyd sy'n bwysig i bobl Cymru.  

Mae'r fframwaith Canlyniadau wedi'i ddatblygu i'w ddefnyddio gan y Llywodraeth, cymunedau lleol, gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau'r sector preifat a gwirfoddol i ysbrydoli a llywio camau gweithredu i wella a diogelu iechyd a llesiant. Mae'n gysylltiedig â dangosyddion a cherrig milltir cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sydd wedi'u pennu gan Weinidogion Llywodraeth Cymru. 

Yr offeryn adrodd newydd yw'r un cyntaf i'w rhyddhau ers pandemig y Coronafeirws. Mae'n cynnwys dangosyddion ar ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd, derbyniadau o ran torri cluniau a disgwyliad oes a disgwyliad oes iach. Mae'r offeryn hwn wedi'i ddatblygu mewn ffordd ailadroddol, gyda rhanddeiliaid, ac yn hynny o beth rydym yn parhau i adeiladu cynnwys a swyddogaethau, gyda'r rhan fwyaf o ddangosyddion ar gael erbyn diwedd y flwyddyn 

Mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys: 

  • Mae disgwyliad oes menywod dros chwe blynedd yn is yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â'r lleiaf difreintiedig, gyda disgwyliad oes iach bron 17 mlynedd yn is 
  • Mae disgwyliad oes dynion dros saith mlynedd yn is yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â'r lleiaf difreintiedig, gyda disgwyliad oes iach fwy na 12 mlynedd yn is 
  • Mae unigrwydd ddwywaith yn fwy tebygol ymhlith pobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig 
  • Mae achosion o dorri cluniau uchaf ymhlith menywod a phobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. 

Meddai Rhys Gibbon, Prif Ddadansoddwr Deallusrwydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae'r cynnydd mewn disgwyliad oes ar ôl y rhyfel wedi arafu ers 2011, gan ostwng yn y blynyddoedd diweddaraf. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer iechyd y boblogaeth gan ein bod am i bobl fyw yn hirach, ac mewn iechyd da. 

“Mae'r data hyn yn hanfodol i ni fonitro iechyd a llesiant pobl Cymru a llywio polisïau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol er mwyn cefnogi hyn. Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn parhau i fod yn flaenoriaeth. 

“Ond rydym hefyd yn awyddus i dynnu sylw at y ffyrdd o fyw a all gael effaith gadarnhaol ar iechyd. Mae'n bwysig i wneuthurwyr polisi sicrhau bod dewisiadau iachach yn haws i bobl eu gwneud.”