Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau arfaethedig i'r ffordd rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am y Coronafeirws

Cyhoeddwyd: 18 Chwefror 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud rhai newidiadau i'r ffordd rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan a'n dangosfwrdd data

Gan ddechrau ar 19 Chwefror, byddwn yn diweddaru ein dangosfwrdd data Coronafeirws ar ddyddiau'r wythnos yn unig. 

Hefyd, dim ond ar ddyddiau'r wythnos y bydd ffigurau penawdau yn cael eu postio ar gyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Dr Chris Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddychwelyd i fwy o weithrediadau ‘busnes fel arfer’, rydym yn sicrhau bod ein dangosfwrdd data Coronafeirws yn fwy unol ag adrodd rheolaidd am glefydau trosglwyddadwy eraill.

“Bydd ein tîm goruchwyliaeth yn cadw’r gallu i gynyddu yn ôl i adrodd yn amlach os oes angen.”

Felly bydd y rhifau penawdau a gyhoeddir ar ddydd Mawrth yn cynnwys gwerth 72 awr o ddata.

Mae dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i fwriadu fel dull adrodd cyflym i ddarparu'r wybodaeth orau a diweddaraf, sy'n destun cysoni data parhaus.  Cyhoeddir ystadegau swyddogol sy'n ymwneud â'r Coronafeirws yng Nghymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.