Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau arfaethedig i'r ffordd rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am y Coronafeirws

Diweddarwyd: 7 Ebrill 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud rhai newidiadau i’r ffordd y byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan a’n dangosfwrdd data. 

Gan ddechrau ar 17 Ebrill, ni fyddwn yn cyhoeddi data Coronafeirws na datganiad dyddiol ar ein gwefan ar ddydd Sadwrn mwyach. 

Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Un o gyfrifoldebau statudol Iechyd Cyhoeddus Cymru yw darparu gwybodaeth amserol a chywir am glefydau trosglwyddadwy.

Rydym wedi bod yn ceisio gwneud hynny mewn modd teg, tryloyw a chywir drwy gydol pandemig COVID-19. Mae hyn wedi arwain at nifer fawr o allbynnau y byddwch i gyd yn gyfarwydd â nhw, gan gynnwys ein crynodebau dyddiol ar ein dangosfwrdd.

Nawr, rydym wedi cyrraedd cam yn yr ymateb i’r pandemig lle mae'r cyfraddau achos wedi gostwng ac felly mae angen i ni adolygu ein hallbynnau. Felly gan ddechrau o 17 Ebrill, byddwn yn darparu adroddiadau 6 diwrnod yn lle 7 diwrnod.

Ni fyddwn yn cyhoeddi ein ffigurau dyddiol ar y dangosfwrdd na’n diweddariadau ar ddydd Sadwrn. Fodd bynnag, pan fyddwn yn cyhoeddi ein hadroddiadau ar ddydd Sul, byddant yn cynnwys y canlyniadau a’r data ar gyfer dydd Sadwrn hefyd.

Rydym yn gwneud hyn oherwydd bod nifer yr achosion bellach yn isel, felly gall unrhyw amrywiad o ddydd i ddydd arwain at ddehongliad a allai fod yn gamarweiniol ac rydym eisiau canolbwyntio mwy ar y tueddiadau sylfaenol yn lle’r amrywiadau o ddydd i ddydd. Gall hyn fod yn arbennig o amlwg lle mae niferoedd bach mewn ardaloedd awdurdodau lleol sydd â lefelau poblogaeth bach, a gall hyn arwain at bryder diangen.

Yn ystod y cam penodol hwn o'r pandemig, rydym hefyd wedi bod yn canolbwyntio ar agweddau eraill ar ein gwyliadwriaeth – sy'n cynnwys gwyliadwriaeth ar gyfer amrywiolynnau sy’n peri pryder, gwyliadwriaeth ynghylch derbyn brechiadau a monitro brechlynnau ar gyfer effeithiau andwyol ac ati.

Felly, rydym yn credu y bydd angen teilwra ein hallbwn gwyliadwriaeth yn unol â hynny yn ystod cam nesaf y pandemig.

Os aiff pethau i'r cyfeiriad anghywir ac y byddwn mewn sefyllfa lle mae nifer yr achosion yn cynyddu, byddwn yn darparu adroddiadau 7 diwrnod eto yn ôl yr angen."

Nod dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yw bod yn offeryn adrodd cyflym i ddarparu'r wybodaeth orau a mwyaf diweddar, sy'n destun cysoni data parhaus.  Cyhoeddir ystadegau swyddogol ynghylch Coronafeirws yng Nghymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.