Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau arfaethedig i'r ffordd rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am y Coronafeirws

Cyhoeddwyd: 11 Rhagfyr 2020

Newidiadau arfaethedig i'r ffordd rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am y Coronafeirws

Bydd hyn yn effeithio ar ein hadrodd dyddiol ar ffigurau Coronafeirws, ac felly ni fydd ffigurau dyddiol yn cael eu rhyddhau ddydd Sul 13 Rhagfyr.  Bydd cyfnod o gysoni a dilysu data a fydd yn effeithio ar ein ffigurau adrodd dyddiol am sawl diwrnod ar ôl yr amser segur hwn.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn gwneud rhai newidiadau i'r ffordd rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan a'n dangosfwrdd data

O ddydd Llun 14 Rhagfyr byddwn yn symud yr amser cyhoeddi ar gyfer ein dangosfwrdd data a'n datganiad dyddiol ymlaen o 2pm i'r amser cynharach, sef 12pm. 

Am resymau gweithredol, byddwn yn newid y ‘data yn gywir ar’ dyddiol o 1pm y diwrnod blaenorol i 9am y diwrnod blaenorol.  Rydym hefyd yn bwriadu ymestyn y cyfnod oedi ar gyfer adrodd cyfradd achosion saith diwrnod o ddau i bedwar diwrnod.  Bydd hyn yn gwella ymhellach gywirdeb achosion Coronafeirws fesul 100,000 o'r boblogaeth yn ôl ardal awdurdod lleol ar gyfer yr achosion 7 diwrnod diweddaraf.

Meddai Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r Coronafeirws yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae'r newidiadau hyn i drefniadau cyhoeddi yn rhan o'n dull o barhau i wella cywirdeb ein dangosfwrdd.

“Rydym yn atgoffa pobl bod ein dangosfwrdd wedi'i fwriadu fel dull adrodd cyflym i ddarparu'r wybodaeth orau a diweddaraf, sy'n destun cysoni data parhaus.  Cyhoeddir ystadegau swyddogol sy'n ymwneud â'r Coronafeirws yng Nghymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol."