Neidio i'r prif gynnwy

Mynd i'r afael â phetruster brechu a chamwybodaeth yn diogelu iechyd cyhoeddus

Cyhoeddwyd: 13 Mawrth

Er mai brechiadau yw'r ffordd fwyaf effeithiol o achub bywydau a diogelu iechyd cyhoeddus ar draws y byd, gall petruster brechu, wedi'i ysgogi gan gamwybodaeth, leihau llwyddiant rhaglenni brechu, dileu clefydau, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ar hyn o bryd mae brechlynnau'n achub rhwng tair miliwn a hanner a phum miliwn o fywydau ledled y byd bob blwyddyn, ond nid yw argaeledd brechlynnau yn unig yn ddigon i gyrraedd pawb sy'n gymwys a rhaid i unrhyw raglen gael ei derbyn gan bobl a chymunedau i fod yn fwyaf effeithiol. 

Mae’r adroddiad sy'n edrych ar brofiadau, polisïau, rhaglenni, a thystiolaeth o bob rhan o'r byd yn datgan er mai camwybodaeth ddigidol yw un o'r ysgogwyr mwyaf ar gyfer lleihau derbyn brechlynnau, ymddiriedaeth yw'r ysgogwr mwyaf ar gyfer derbyn ac yn aml gweithwyr iechyd proffesiynol yw'r ffynhonnell wybodaeth fwyaf dibynadwy.  

Felly mae ymgyrchoedd cyfathrebu yn hanfodol ar gyfer rhaglenni brechu wrth ennill ymddiriedaeth a derbyniad pobl drwy roi gwybodaeth gredadwy, dylanwadu ar agweddau ac ymddygiad a chynhyrchu galw.  

Meddi Dr Mariana Dyakova, arweinydd Iechyd Rhyngwladol a Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:   

“Mae penderfynu derbyn brechlyn yn dibynnu ar lawer o ffactorau, yn bennaf ar adeiladu a chynnal ymddiriedaeth gyda phobl, teuluoedd a chymunedau. Mae hyn yn gofyn am iaith ddealladwy glir, gwrando ar bryderon ac ymateb iddynt, ac ailadrodd negeseuon allweddol hyderus sy'n cael eu hategu gan dystiolaeth, sy'n brwydro yn erbyn ansicrwydd.” 

“Mae'n arbennig o bwysig lleihau annhegwch cyrhaeddiad cyfathrebu drwy deilwra strategaethau imiwneiddio i wella nifer y rhai sy'n cael eu brechu, dulliau sy'n canolbwyntio ar y gymuned a'i chynnwys, sicrhau hygyrchedd gwefannau, targedu poblogaethau sy'n agored i niwed neu dan anfantais, a chynnwys eu profiadau mewn ymgyrchoedd.” 

Meddai Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Dros Dro Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae'n galonogol bod yr adroddiad hwn yn amlygu y gall ymgyrchoedd cyfathrebu gynyddu derbyniad brechlyn. Mae cael mynediad at wybodaeth gywir a dibynadwy yn hanfodol er mwyn helpu unigolion i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch brechu.  

“Yng Nghymru, rydym wedi cynnal nifer o ymgyrchoedd cyfathrebu, sy'n cael eu llywio gan ymddygiad, er mwyn helpu i lywio a chynyddu gwybodaeth pobl am frechu. Ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn parhau i'w wneud - i sicrhau bod pobl yn cael gwybodaeth ddibynadwy, gywir.” 

Mae'r adroddiad yn nodi ffactorau llwyddiant allweddol mewn ymgyrchoedd cyfathrebu ar gyfer brechlynnau, gan gynnwys: 

  • Casglu tystiolaethau cadarnhaol gan y rhai sydd wedi cael y brechlyn  
  • Cynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i hyrwyddo ymddiriedaeth y cyhoedd 
  • Rhaid i negeseuon fod yn ddiwylliannol ac ieithyddol briodol i'r gymuned darged 
  • Datblygu negeseuon cyson ar draws asiantaethau gwahanol i leihau dryswch 
  • Canolbwyntio ar fanteision  
  • Arfarnu ffynonellau gwybodaeth am frechlynnau 
  • Rhaid i gyfathrebu fynd ochr yn ochr â pholisïau ychwanegol a mesurau iechyd cyhoeddus 
  • Datblygu sylfaen gref o bartneriaethau aml-sectoraidd cyhoeddus/preifat 
  • Cynyddu presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol  
  • Teilwra negeseuon i gymunedau penodol 

Mae'r Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: ymgyrchoedd cyfathrebu ar gyfer derbyn brechlynnau, yn rhoi crynodeb lefel uchel o ddysgu o brofiadau bywyd go iawn o wledydd dethol, ac o amrywiaeth o lenyddiaeth wyddonol a llwyd. Mae'r gyfres o adroddiadau'n cynnig cipolwg byr o'r dystiolaeth, polisi ac ymarfer presennol, gan rannu enghreifftiau o wledydd perthnasol a chanllawiau ac egwyddorion cyrff rhyngwladol. 

Darllenwch yr adroddiad yma: Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol: Ymgyrchoedd cyfathrebu er derbyn brechlynnau (phwwhocc.co.uk)